Cyflwyniad
Cafodd Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan – SAUM – ei lansio gan Brif Weinidog Cymru ar Chwefror 26ain 2021. Ni yw’r Sefydliad Astudiaethau Uwch cyntaf yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar ymchwil trawsnewidiol rhyngddisgyblaethol. Mae SAUM yn datblygu cymuned ffyniannus ar raddfa fawr – mudiad sy’n gosod y nod o ymateb ar fyrder i gyfleoedd a heriau mwyaf tyngedfennol y byd. Mae’n tynnu pobl ynghyd o bob disgyblaeth i ddarganfod ac arloesi gyda phrosesau, deunyddiau, technolegau, polisïau ac arferion a fydd yn creu byd sy’n fwy cynaliadwy, cyfiawn, llesol, llawen a gobeithiol.
Bydd SAUM yn helpu i yrru’r Brifysgol yn ei blaen, gan wasanaethu’r ddinas, y rhanbarth, Cymru a’r byd gydag ymchwil a menter o’r radd flaenaf. Mae hefyd yn rhyw fath o wersyll cychwynnol lle daw grwpiau ynghyd i gael eu hyfforddi, eu cymell a’u hannog i godi eu golygon at y copaon uchaf o ran deallusrwydd ac effaith, gan ein gwneud ni’n barod i ddenu’r cyllid allanol sylweddol sydd ei angen er mwyn bod yn gyfrwng effeithiol i greu newid.
Mae SAUM wedi’i enwi ar ôl y diweddar Rhodri Morgan, cyn Brif Weinidog Cymru a Changhellor Prifysgol Abertawe y mae ei angerdd dros Gymru a’i lle yn y byd yn parhau i’n hysbrydoli.