Astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig astudiaethau ôl-raddedig o safon ragorol mewn lleoliad arfordirol ysblennydd. O raddau meistr i astudiaethau PhD, rydym yn cynnig rhaglenni ôl-radd mewn amrywiaeth eang o bynciau.
Gan ein bod yn brifysgol yn y 30 uchaf yn y DU ar gyfer ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021), mae’r datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil ac arloesi yn llywio pob un o’n cyrsiau ôl-raddedig. Dewch i wybod mwy am sut mae ymchwil Abertawe yn newid bywydau ar draws y byd heddiw.